#

Deiseb: P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan-Y Fenni
Y Pwyllgor Deisebau | 13 Medi 2016
 Petitions Committee | 13 September 2016
 

 

 

 

 


Papur Briffio:

Rhif y ddeiseb: P-05-690

Teitl y ddeiseb: Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan-Y Fenni

Testun y ddeiseb:

Mae'r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid yr hen arwyneb concrit ar ffordd yr A40 o Raglan i'r Fenni, am darmac tawel (Whispering Tarmac).

Mae'r Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn (2013-18) yn nodi y dylid rhoi blaenoriaeth i'r ffordd hon, ar ôl derbyn yr ymatebion i'r ymgynghoriad ac ar ôl gwneud y mesuriadau. Er hynny, ni chafwyd unrhyw gynnydd er gwaethaf galwadau parhaus gan drigolion, y Cynghorydd Sir lleol, yr Aelod Cynulliad a'r Aelod Seneddol.

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn nodi y dylid rhoi'r flaenoriaeth gyntaf i'r ffordd hon, o ystyried y pryderon niferus a godwyd gan y cyhoedd a chynrychiolwyr a'i bod wedi'i nodi o dan Gynllun Gweithredu ynghylch Sŵn presennol Llywodraeth Cymru.

Cefndir

Llywodraeth Cymru yw’r awdurdod priffyrdd ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd yng Nghymru. Mae’n gyfrifol am gynnal a chadw a gwella’r rhwydwaith, gan gynnwys yr A40.

Er bod y cyfrifoldeb statudol yn gorwedd gyda Gweinidogion Cymru (y Gweinidog dros yr Economi a Seilwaith), mae dau Asiant Cefnffyrdd yng Nghymru yn gyfrifol am weithrediad y rhwydwaith o ddydd i ddydd, y gwaith o’i gynnal a’i gadw, ac unrhyw fân welliannau a wneir:

§    Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru ac

§    Asiant Cefnffyrdd De Cymru

Mae’r asiantau’n gweithredu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Trosglwyddwyd y swyddogaeth gynllunio ganolog i Lywodraeth Cymru yn 2015 yn dilyn arolwg. Mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio, rheoli a chyflawni gwelliannau mawr i gefnffyrdd a chynlluniau ffyrdd newydd yn uniongyrchol.

Sefydlodd y “Gyfarwyddeb Sŵn Amgylcheddol” (2002/49/EC) ddull cyffredin o asesu a rheoli sŵn amgylcheddol ac fe’i gweithredwyd drwy Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 a Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Mynediad) 2009.

Mae’r Rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol bod Llywodraeth Cymru yn llunio mapiau sŵn strategol ar gyfer crynodrefi trefol (poblogaethau sy’n fwy na 100,000 o bobl), ffyrdd pwysig a rheilffyrdd pwysig erbyn mis Mehefin 2012, a llunio cynlluniau gweithredu ar eu cyfer erbyn mis Gorffennaf 2013. Cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn i Gymru ym mis Rhagfyr 2013. 

Mae’r A40 rhwng Rhaglan a’r Fenni, sydd tua 10 milltir o hyd, yn un o dri darn o gefnffordd goncrid sy’n parhau i fodoli yng Nghymru. Y rhai eraill yw’r A465 rhwng cyfnewidfa Aberdulais a chylchfan Cwmgwrach, a’r A4232 rhwng Croes Cwrlwys a Chyffordd 33 o’r M4.  

Nodwyd y tri yn y Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn, sy’n nodi “a choncrid yw’r arwyneb mwyaf swnllyd y dyddiau hyn ar rwydwaith cefnffyrdd Cymru”.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae’r Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn yn nodi:

Yn 2013, comisiynodd Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru asesiadau sŵn ar gyfer y tri darn sy’n weddill o gefnffordd goncrid. Roedd y mesuriadau a gymerwyd yn dangos lefelau uwch o sŵn ar hyd y tair ffordd. Hefyd, mae ymarfer mapio sŵn 2012 wedi tynnu sylw at rannau concrid o’r A465 a’r A4232 fel mannau blaenoriaeth posib, ac roedd pedwar ymateb ar ddeg i’r ymgynghoriad ar y cynllun hwn yn ymwneud â gormod o sŵn o’r A40 goncrid, gan gynnwys ymatebion gan breswylwyr o dri phentref gwahanol a chyfarwyddwr rheoli cartref preswyl. Roedd y pedwar ymateb ar ddeg i gyd yn annog gwella arwyneb y ffordd.

Yng ngoleuni’r ymatebion i’r ymgynghoriad a’r mesuriadau a gymerwyd, bydd yr holl eiddo preswyl ar hyd y tri darn concrid o’r gefnffordd wedi’u rhestru fel mannau blaenoriaeth o dan y cynllun gweithredu hwn. Bydd amseriad unrhyw ail-wynebu’n dibynnu ar y cyllidebau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwneud gwaith o’r fath.

 

Cyhoeddwyd Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cymru Llywodraeth Cymru yn 2015.  Diben y cynllun yw darparu amserlen ar gyfer cyllido a chyflawni cynlluniau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, ynghyd â manylion y gwariant amcangyfrifiedig sydd ei angen a’r ffynonellau cyllid tebygol.

Mae’r llythyr at y Cadeirydd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ynghylch y ddeiseb hon yn nodi:

The A40 at this location is not life expired and there are currently no plans to resurface this section.

The section, adjacent to Raglan Castle, has not been identified as an area requiring noise mitigation works at the present time.  However, a section of the A40 to the west of the A40/Usk Road roundabout has been identified as a Priority 1 area.  This section is approximately 650 metres long from the roundabout to just past the over-bridge that carries the roadway leading to The Dell and Cefn Coch farm.

Mae’r llythyr yn nodi bod y cyllid yn cael ei ddyrannu’n flynyddol ar sail blaenoriaeth a bod y gwaith yn ddibynnol ar gyllidebau. Bydd y rhestr blaenoriaethau’n cael ei hadolygu ar ôl cynnal yr ymarfer arolygu sŵn nesaf ar y rhwydwaith cefnffyrdd, sydd wedi’i drefnu ar gyfer 2017.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Nid yw’r Cynulliad wedi ystyried y mater hwn eto.

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.